Datganiad Preifatrwydd

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Grŵp Parcio De Cymru (SWPG).

Pwy ydyn ni

Mae'r wefan yma'n cael ei gweithredu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer ac ar ran yr Awdurdodau Lleol canlynol:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Mae pob un o'r Cynghorau uchod yn rhan o Grŵp Parcio De Cymru.

Pa wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu?

At ddibenion talu Hysbysiad Tâl Cosb

Dyma'r manylion sydd eu hangen er mwyn prosesu'r taliad:

  • Rhif Cofrestru'r Cerbyd
  • Rhif yr Hysbysiad Tâl Cosb
  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion Cyswllt
  • Manylion Talu

Wrth gyflwyno her i'r Hysbysiad

  • Rhif Cofrestru'r Cerbyd
  • Rhif yr Hysbysiad Tâl Cosb
  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion Cyswllt

Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth er mwyn:

  • Prosesu'ch taliad
  • Neilltuo'ch taliad i'r cyfrif cywir
  • Anfon / darparu derbynneb os oes angen
  • Prosesu unrhyw heriau
  • Cysylltu â chi mewn perthynas ag unrhyw ymholiadau

Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Caiff eich manylion talu eu prosesu er mwyn cyflawni ein Dyletswyddau Statudol yn unol â'r canlynol:

  • Deddf Rheoli Traffig 2004
  • Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2013

Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Mae CIVICA UK Limited yn gyflenwr meddalwedd trydydd parti a fydd yn prosesu eich taliad ar-lein ar ran RCT.

Mae Imperial Civil Enforcement Solutions yn darparu'r meddalwedd gorfodi parcio a phrosesu sy'n cael ei defnyddio gan aelodau Grŵp Parcio De Cymru.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'ch gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio ar gyfer y broses gorfodi parcio yn ei chyfanrwydd, ewch i wefan yr Awdurdod Lleol a gyhoeddodd yr Hysbysiad Tâl Cosb yn wreiddiol:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili  
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â gwneud taliad neu herio Hysbysiad, mae modd i chi gysylltu â Grŵp Parcio De Cymru:

Ar-lein: www.swpg.co.uk

Ffôn: 033 33 200 867

Trwy lythyr: Grŵp Parcio De Cymru, Blwch Post 112, Pontypridd, CF37 9EL.