Grŵp Parcio De Cymru

Mae Grŵp Parcio De Cymru yn prosesu Hysbysiadau Tâl Cosb ar ran yr Awdurdodau Lleol canlynol: CBS Rhondda Cynon Taf, CBS Merthyr Tudful, CBS Blaenau Gwent, CBS Caerffili, Cynor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, a ChBS Torfaen.

Mae'r Awdurdodau Lleol yma'n cyflogi Swyddogion Gorfodi Sifil i gadw gwyliadwriaeth a gorfodi cyfyngiadau traffig (wedi'u nodi ar y ffordd neu drwy godi arwydd) fel llinellau melyn sengl /dwbl, mannau parcio i'r anabl, mannau llwytho, ac ati. Caiff Gorchmynion Rheoleiddio Traffig a Hysbysiadau Tâl Cosb eu cyhoeddi ar gyfer tramgwyddau parcio sifil mewn perthynas â'r cyfyngiadau yma.

Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn dal i fod yn gyfrifol am orfodi rhwystrau i lwybrau troed, lonydd y tŷ, cyffyrdd a throseddau traffig sy'n symud. Os ydych chi'n dymuno rhoi gwybod i'r Heddlu am achos o gerbyd yn parcio a chreu rhwystr, ffoniwch 101, sef y rhif ffôn pan nad yw'n argyfwng.

Dolenni cyswllt defnyddiol:

DirectGov - I gael gwybodaeth am ddiogelwch gyrwyr, Rheolau'r Ffordd Fawr, gyrwyr a beicwyr, aros a pharcio (238 - 252) a moduro: www.direct.gov.uk
TPT - Mae'r Traffic Penalty Tribunal yn ddyfarnwr annibynnol ac yn penderfynu ar apelau yn erbyn cosbau sy'n cael eu cyhoeddi gan Awdurdodau Gorfodi Sifil yng Nghymru a Lloegr: www.trafficpenaltytribunal.gov.uk
Patrol - Yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â gorfodi Parcio a'r prosesau ynghlwm: www.patrol-uk.info
Cynllun Bathodyn Glas – Mae modd cael copi o lyfryn y Bathodyn Glas a manylion y cynllun drwy www.gov.uk/apply-blue-badge

Cysylltwch â ni - 033 33 200 867